Byddwch Yn Cyfrannu Drwy
- Cyflwyno rhaglenni ‘Cymraeg i Oedolion’ i fyfyrwyr a staff ar ddau gampws Cardiff Met ac ar-lein.
- Helpu i ddatblygu a lansio rhaglenni newydd ar gyfer dysgu’r Gymraeg a datblygu sgiliau i fyfyrwyr a staff.
- Datblygu a pharatoi adnoddau addysgu yn ôl yr angen, ac addasu gwersi i ddiwallu anghenion y dysgwyr ym mhob dosbarth.
Gyda gwybodaeth a phrofiad o gynhyrchu a chyflwyno rhaglenni Cymraeg i Oedolion ar draws amryw o lefelau, byddwch yn dod â’ch arbenigedd yn y maes hwn i Brifysgol sydd wedi ymrwymo i gynnig rhaglenni Cymraeg i Oedolion i gymaint â phosibl o’i staff a’i myfyrwyr.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn aur sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiad. Rydym yn cefnogi ac yn croesawu cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u bod yn gallu perfformio ar eu gorau. Drwy ymuno â'n Prifysgol, byddwch mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhwydd, gan eich cefnogi gyda datblygiad eich gyrfa.
Rydym Yn Cynnig Buddion Rhagorol Fel
- Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiynol (pro rata os yn rhan-amser).
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau misol hael.
- Polisïau rhagorol sy’n ystyriol o deuluoedd - edrychwch ar ein tudalen Hyb Polisi.
- Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad i gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.
- Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd rhagorol gydag aelodaeth â chymhorthdal.
- Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.
I gael mwy o fanylion am y rôl, cysylltwch â Tom Sugg, Rheolwr Cymraeg i Oedolion, TWSugg@cardiffmet.ac.uk neu mae croeso i chi e-bostio Aleks Janusiewicz, Cynghorydd Recriwtio, ajanusiewicz2@cardiffmet.ac.uk.
Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein.
Bydd manyleb y person yn cael ei defnyddio i lunio'r rhestr fer; felly cofiwch ddefnyddio'r wybodaeth hon wrth ysgrifennu’ch cais. Mae cyngor ac awgrymiadau defnyddiol am sut i wneud cais ar ein tudalen Canllawiau Ymgeisio.
Dyddiad Cau: 27 Nov 2026
Ysgol/Uned: Proffesiynol a Chymorth
Cyflog: £30,180 to £35,302 y flwyddyn
Tymor penodol o 12 mis
