Severn Trent logo

Gweithredwr Dosbarthu

Severn Trent
Department:Project Management
Type:ON-SITE
Region:Cardiff, Wales
Location:Dinas Powis, Wales, United Kingdom
Experience:Entry Level
Skills:
FULL UK DRIVING LICENCEPLANT MACHINERY OPERATIONWATER NETWORK MAINTENANCEPIPE REPAIR AND REPLACEMENTVALVE INSTALLATIONWATER METER INSTALLATIONSTAKEHOLDER MANAGEMENTCUSTOMER SERVICEDATA MAINTENANCE
Share this job:

Job Description

Posted on: October 3, 2026

GADEWCH I NI FYND ATI'N SYTH 

 Yn Hafren Dyfrdwy, rydym yn angerddol am ddarparu dŵr glân a diogel a gofalu am yr amgylchedd ledled Cymru. Rydym yn fwy na chwmni dŵr – rydym yn dîm sydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd, arloesedd, ac i gefnogi'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Os ydych chi'n chwilio am rôl lle gallwch chi gael effaith gwirioneddol a bod yn rhan o sefydliad sy'n cael ei yrru gan bwrpas, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. 

GADEWCH I NI DDWEUD MWY WRTHOCH CHI

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm i ddod yn Weithredwr Dosbarthu!

Wrth weithio yn y rôl hon, byddwch yn gyfrifol am weithrediad a chynnal a chadw rhwydwaith Dŵr Tanddaearol Hafren Dyfrdwy. Byddwch yn cael y dasg o gynnal a chadw ein Rhwydwaith Dŵr Glân ac unrhyw atgyweiriadau gofynnol i'n Prif Asedau Dŵr Glân, ac ar ben hynny byddwch yn cloddio priffyrdd cyhoeddus ar safleoedd Hafren Dyfrdwy a thiroedd preifat.

Byddwch yn rhoi anghenion ein cwsmeriaid yn gyntaf, gan ymateb i unrhyw faterion a godir gan ein cwsmeriaid neu aelodau'r cyhoedd a'u datrys. Bydd eich sgiliau rheoli rhanddeiliaid hefyd yn cael eu defnyddio i gysylltu ag adrannau eraill a'n partneriaid contract. 

O fewn y rôl hon, mae pob diwrnod yn wahanol, byddwch yn cael ymgymryd â'r ystod lawn o ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw effeithiol. Gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i; atgyweirio ac ailosod prif bibellau dŵr presennol ac asedau ategol, gosod a gweithio ar falfiau, all-lifoedd dŵr a mesuryddion. 

Fel ein Gweithredwr Dosbarthu newydd, nid yn unig y byddwch yn gweithredu peiriannau allan ar y safle, byddwch hefyd yn defnyddio technoleg gyfoes i helpu ein swyddfa gefn wrth gynnal a chadw data, felly mae hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio a datblygu eich sgiliau yn gyffredinol!

Yn y rôl hon bydd gofyn i chi fod ar alwad ar rota yn ôl yr angen (24/7, 365). Ar ben hynny, mae hon yn rôl awyr agored, gan weithio ym mhob tywydd, ac yn y nos pan fo angen, felly os nad oes ots gennych fod yn yr awyr agored ac os ydych yn caru torchi'ch llewys, gadewch i mi ddweud mwy wrthych.

 AM BETH RYDYM NI'N CHWILIO 

Mae angen Trwydded yrru lawn y Deyrnas Unedig gan y bydd gofyn i chi deithio'n annibynnol i ddepos/canolfannau. 

Yn y rôl hon byddwch yn atebol am eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a bydd gennych ddyletswydd gofal i'ch cydweithwyr ac unrhyw un yr effeithir arnynt gan y gwaith a wnewch, er enghraifft y cyhoedd / staff ar y safle. Dyna pam mae dod â'ch profiad o weithio'n ddiogel a gweithredu'n gydymffurfiol yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. 

 Rydyn ni wrth ein bodd yn gwasanaethu ein cwsmeriaid, felly mae'n allweddol eich bod chi hefyd, oherwydd yn y rôl hon byddwch chi'n wyneb Hafren Dyfrdwy pan fyddwch chi allan yn ein cymunedau. 

 

 

Mae sgiliau a phrofiad yn bwysig, ond mae cymeriad, positifrwydd ac agwedd ofalgar yn bwysig hefyd.  Rydym yn croesawu pobl o bob cefndir ac yn dathlu unigoliaeth gan ein bod yn gwybod bod meddyliau, profiadau a chefndiroedd amrywiol yn ein helpu i ddysgu a gwasanaethu ein cymunedau yn well. Rydym yn chwilio am bobl sy'n cymryd rhan, sydd eisiau bod yn rhan o rywbeth mwy, ac sy'n gwneud gwahaniaeth oherwydd eu bod nhw'n malio.   

 SUT BYDDWN NI YN EIN TRO YN EICH GWOBRWYO AC YN GOFALU AMDANOCH CHI

 Nid swydd yn unig yw hon; mae'n yrfa. Rydym yn cynnig buddion sy'n gwobrwyo gwaith gwych a hyfforddiant arobryn i'ch helpu i gyflawni eich potensial. Hefyd, byddwch chi'n cyfrannu at yr amgylchedd a'r gymuned hefyd. Dyma rai o'n ffefrynnau ni: 

  • 23 diwrnod o wyliau + gwyliau banc (a'r gallu i brynu/gwerthu hyd at 5 diwrnod y flwyddyn)
  • Cynllun bonws blynyddol (hyd at £1,150 y flwyddyn yn seiliedig ar berfformiad y cwmni)
  • Cynllun pensiwn blaenllaw – byddwn yn dyblu eich cyfraniad (hyd at 8% pan fyddwch yn cyfrannu 4%)
  • Sharesave – y cyfle i brynu cyfranddaliadau Severn Trent plc am bris gostyngol
  • Hyfforddiant a datblygiad pwrpasol gyda'n ‘Hacademi’
  • Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
  • Dau ddiwrnod gwirfoddoli â thâl y flwyddyn 

 AMDANI  

Rydym ar dân i glywed gennych chi! Oes gennych CV wedi'i ddiweddaru yn barod a neilltuo pum munud i wneud cais. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad ar ôl y dyddiad cau, felly cadwch lygad ar eich ffôn a'ch negeseuon e-bost.  
Originally posted on LinkedIn

Apply now

Please let the company know that you found this position on our job board. This is a great way to support us, so we can keep posting cool jobs every day!

Severn Trent logo

Severn Trent

View company page
JobsInUK.app logo

JobsInUK.app

Get JobsInUK.app on your phone!

SIMILAR JOBS
Atradius UK logo

Senior Project Manager

Atradius UK
Just now
Project Management
ON-SITE
Cardiff, Wales, United Kingdom
PROJECT MANAGEMENTPROJECT PLANNINGRISK MANAGEMENT+5 more
Severn Trent logo

Gweithredwr Dosbarthu

Severn Trent
Just now
Project Management
ON-SITE
Dinas Powis, Wales, United Kingdom
FULL UK DRIVING LICENCEPLANT MACHINERY OPERATIONWATER NETWORK MAINTENANCE+6 more
HM Revenue & Customs logo

Head of Supplier Management Pillar

HM Revenue & Customs
Just now
Project Management
ON-SITE
Cardiff, Wales, United Kingdom
SUPPLIER MANAGEMENTCONTRACT MANAGEMENTSTRATEGIC LEADERSHIP+7 more
Galliford Try logo

Senior Project Manager

Galliford Try
Just now
Project Management
ON-SITE
Cardiff, Wales, United Kingdom
PROJECT MANAGEMENTCONSTRUCTIONSITE MANAGEMENT+6 more
Cloudflare logo

Senior Product Manager, GTM Strategist

Cloudflare
Just now
Project Management
HYBRID
United Kingdom